Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg


Lleoliad:

Fideogynhadledd drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Gorffennaf 2021

Amser: 09.15 - 10.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12401


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Jayne Bryant AS (Cadeirydd)

James Evans AS

Siân Gwenllian AS

Laura Anne Jones AS

Ken Skates AS

Buffy Williams AS

Staff y Pwyllgor:

Llinos Madeley (Clerc)

Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc)

Tanwen Summers (Dirprwy Glerc)

Sian Thomas (Ymchwilydd)

Sarah Hatherley (Ymchwilydd)

Phil Boshier (Ymchwilydd)

Catherine McKeag (Rheolwr Ymgysylltu â Dinasyddion)

Michael Dauncey (Ymchwilydd)

Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Chweched Senedd.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Ken Skates AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4  Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

</AI1>

<AI2>

2       Cylch gwaith y Pwyllgor

6.2 Nododd yr Aelodau y cylch gwaith.

 

</AI2>

<AI3>

3       Papurau i’w nodi

Cafodd y papurau eu nodi.

</AI3>

<AI4>

3.1   Fforwm y Cadeiryddion

Adroddiad Gwaddol y Bumed Senedd – CYPE(6)-01-21 – Papur i'w nodi 1

</AI4>

<AI5>

3.2   Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc

Adroddiad Gwaddol Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd – CYPE(6)-01-21 – Papur i'w nodi 2</AI5><AI6>

3.3   Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad terfynol Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd - CYPE(6)-01-21 - Papur i'w nodi 3

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Iechyd meddwl amenedigol

Llythyr gan y cyn Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – CYPE(6)-01-21 – Papur i’w nodi 4

</AI7>

<AI8>

3.5   Addysg heblaw yn yr ysgol

Llythyr gan y cyn Weinidog Addysg – CYPE(6)-01-21 – Papur i’w nodi 5

 

</AI8>

<AI9>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod am weddill y cyfarfod

4.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI9>

<AI10>

5       Gweithdrefnau'r pwyllgor a ffyrdd o weithio

5.1 Nododd yr Aelodau'r Rheolau Sefydlog sy'n llywodraethu busnes pwyllgor a'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r Pwyllgor yn ei waith.

5.2 Bu'r Aelodau'n trafod ac yn cytuno ar ddull cychwynnol o:

- Drefnu busnes, gan gynnwys amseroedd a fformatau’r cyfarfod.

- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu.

- Briffiau pwyllgor a dewisiadau iaith.

 

</AI10>

<AI11>

6       Dull gweithredu strategol o ran cylch gwaith y Pwyllgor

6.1 Cytunodd yr Aelodau i ymgymryd â gweithgarwch yn nhymor yr hydref i ddatblygu a mabwysiadu dull strategol o wneud gwaith pwyllgor.

6.2 Nododd yr Aelodau bwysigrwydd:

- Sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed mewn gwaith pwyllgor.

- Mynd ar drywydd cyfleoedd i weithio ar y cyd â phwyllgorau eraill, lle bo hynny'n briodol. 

 

</AI11>

<AI12>

7       Gweithgarwch cynnar y Pwyllgor

7.1 Cytunodd yr Aelodau i lansio ymgynghoriad â rhanddeiliaid dros yr haf gan wahodd safbwyntiau ar beth ddylai blaenoriaethau'r pwyllgor fod, i lywio ei gynllun strategol a'i raglennu gwaith tymor hwy. Byddai'r dyddiad cau ar ôl gwyliau'r ysgol gan ganiatáu cyfle i bobl mewn ysgolion gyfrannu.

7.2 Cytunodd yr Aelodau hefyd i gynnal gweithgarwch ymgysylltu wedi'i deilwra gyda phlant a phobl ifanc yn nhymor yr hydref, i ofyn am eu safbwyntiau ar flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd.

7.3 Bu'r Aelodau'n trafod ac yn cytuno i wahodd y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog/Dirprwy Weinidog Iechyd i gyfarfod cyntaf tymor yr hydref, i drafod eu blaenoriaethau. Nododd yr Aelodau yr angen i gysylltu â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro a achosir gan amserlen y pwyllgor. Gofynnir am bapur ysgrifenedig ymlaen llaw i lywio'r sesiwn.

7.4 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi prif raglen waith ar sail dreigl.

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>